Friday 2 January 2015

I mewn yw'r ffordd allan

Yn draddodiadol, mae Dydd Calan yn ddiwrnod tenau o safbwynt newyddion i’r wasg genedlaethol a’r cyfryngau darlledu, ond o fewn oriau i glychau Big Ben, adroddwyd ar draws y byd am drasiedi yn Tseina. Yn Shanghai, mae’n ymddangos bod dwsinau o bobl wedi’u lladd mewn rhuthrad a achoswyd gan rywun yn taflu doleri o ffenestr yn ystod dathliad Nos Galan. Er ei bod bron yn amhosibl deall dyfnder sioc a galar ceraint y dioddefwyr, mae achosion go iawn y trasiedi’n hynod o hawdd i’w deall. Mae Tseina, Prydain a bron pob gwlad arall yn y byd yn rhannu diwylliant cyffredin o dreuliant sy’n achlysurol yn datgelu ei hun fel ynfydrwydd pur, ond y gweddill o’r amser sy’n bodoli yn ein hisymwybod cyffredinol fel teimladau o anniddigrwydd. Cyn y Nadolig, cafodd Prydain ei blas cyntaf erioed o ‘Ddydd Gwener Gwallgof’, traddodiad a gafodd ei fewnforio o’r America lle mae’r cyhoedd yn cytuno i iselhau ei hunain mewn sgrialfa hollol wirion am nwyddau trydanol a dillad am brisiau gostyngol. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, mewn traddodiad arall a grëwyd mewn mân werthu, ‘Dydd Sadwrn Gwyllt’, roedd siopwyr yn gwario biliynau mewn un ymdrech fawr cyn Dydd Nadolig. Wrth gwrs, nid oes unrhyw beth o’i le mewn siopa, gwario a phrynu anrhegion. Yn ein cymdeithas sydd wedi’i seilio ar gyfoeth, perchnogaeth a gwerthoedd masnachol, yn aml, prynu anrhegion yw’r unig iaith sydd gennym ar ôl i fynegi ein cariad a’n serch tuag at ein gilydd. Fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth sydd bod siopa, gwario a threulio diddiwedd yn gwneud unrhyw un ohonom yn hapusach yn y pen draw. Mae ystadegau blynyddol am dderbyniadau mewn ysbytai oherwydd gwenwyn alcohol, teuluoedd yn chwalu a galwadau at y Samariaid yn ystod cyfnod y Nadolig, yn dystiolaeth o hyn. Ym 1955 ysgrifennodd y seicdreiddydd a’r athronydd cymdeithasol, Erich Fromm, ei lyfr The Sane Society. Mae wedi’i seilio ar ei arsylwadau o fywyd yn America ar yr amser mwyaf ffyniannus yn hanes y wlad. Gwelodd fod America’n hynod effeithlon yn darparu anghenion materol ei dinasyddion - bwyd, dillad, tai, cludiant a diddanu miliynau o bobl ond, ar yr un pryd, roedd y nifer o hunanladdiadau, dibyniaeth ar gyffuriau a throseddau treisgar hefyd wedi cynyddu. Dadl Fromm oedd y gallai diwylliant prynu ddarparu anghenion materol ond nid anghenion dynol ac ysbrydol dyfnach a mwy hanfodol y mae unigolion yn crefu amdanyn nhw. Mae ei syniadau yn dal yn berthnasol trigain mlynedd yn ddiweddarach, ond, yn drist iawn, erioed wedi cael eu hanwybyddu gymaint. Ychydig iawn y mae defod y diwylliant prynu modern adeg y Nadolig yn ei gynnig. Nid yw’n gallu diwallu’r hyn y mae’r mwyafrif o bobl yn ei ddymuno – y syniad o gyswllt dilys go iawn gyda phobl eraill, y gallu i chwalu rhithiau a gweithrediadau y mae cymdeithas yn disgwyl i ni eu mabwysiadu a bod yn real ac felly’n fregus a gallu gwrthod y gwallgofrwydd eang sydd ynghlwm gyda’r diwylliant prynu - gwerthoedd dynol go iawn yw’r rhain. Nid ydym ni fel diwylliant mor wahanol â hynny i ddioddefwyr trasiedi Shanghai, mae ein hobsesiwn gyda’r materol wedi ein gorfodi i roi’r gorau i’r broses anos a mwy heriol (ond llawer pwysicach) o ymchwiliad a chyswllt mewnol. Mae’r Nadolig yn datblygu’n ddyfais arall, fel yfed, gamblo, defnyddio cyffuriau neu ryw er mwyn cadw’r hyn sy’n real o hyd braich. Unwaith mae’r parti wedi gorffen, fodd bynnag, mae realaeth yn dod I’r amlwg ac i rai mae’n gyfle i dorri’r cylchoedd diddiwedd o or-yfed mewn pyliau ac i lwyrlanhau ddechrau. I rai, gall 2015 fod yn rhywbeth mwy na rhuthrad gwyllt tymhorol am deledu sgrin fflat ond yn amser i ddelio ag anghenion dynol go iawn.

No comments:

Post a Comment