Tuesday 27 January 2015

YSBRYDOLIAETH I ERAILL Meddygaeth a Dibyniaeth: Persbectif Gwraig

YSBRYDOLIAETH I ERAILL Meddygaeth a Dibyniaeth: Persbectif Gwraig Fy enw i yw Helen, rwyf ynghanol fy mhedwardegau, yn briod â Gwyn, Meddyg, ac mae gennym dri o blant oed ysgol. Ni chefais unrhyw hyfforddiant meddygol ac nid oes gen i unrhyw gefndir felly ychwaith. Rydw i wedi adnabod fy ngŵr am 25 mlynedd. Ym mis Hydref 2010, credais fod ein teulu wedi taro’r gwaelod hollol, yna yn ystod Haf 2014, sylweddolais ein bod eto mewn rhyw gylch dieflig lle nad oedd gen i unrhyw reolaeth ac, yn drist iawn, ychydig a wyddwn, roedd gwaeth i ddod. Mae fy ngŵr yn alcoholig ac yn adict ac mae wedi dioddef am nifer o flynyddoedd gyda phroblemau iechyd meddwl. Cymhwysodd fel Meddyg ym 1993 ac mewn ffaith, nid oedd yn yfed yr adeg honno. Llwyddodd i ennill ei FRCS (statws ymgynghorydd) yn fuan. Yn yr adran D&A daeth yn amlwg na allai gynnal gyrfa mewn D&A (mae storïau cyfoes yn amlygu hyn yn glir) ac felly, penderfynodd hyfforddi fel Meddyg Teulu (hefyd yn y newyddion ar hyn o bryd!). Mae hefyd wedi cymhwyso mewn Meddygaeth Alwedigaethol a Meddygaeth Liniarol. Fodd bynnag, o ganlyniad i lefelau straen uchel o fod yn Feddyg Teulu a hefyd yn berffeithydd wrth ei waith, mae wedi gweithio fel Locwm a Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau am yr 8 mlynedd ddiwethaf er mwyn iddo allu rheoli ei lwyth gwaith yn fwy effeithlon. Mae ei gydweithwyr a’i gleifion yn ei barchu’n uchel iawn am ei safonau gwybodaeth uchel a’i ofal ond, yn drist iawn, ac er mawr niwed iddo’i hun, mae hyn yn ei annog i weithio’n galetach. Roedd y defnydd o alcohol yn ei helpu i ymdopi gyda straen ei swydd a’i boen meddwl. Nid oedd byth yn yfed yn union cyn neu yn ystod ei waith. Ym mis Hydref 2010, teimlai na allai barhau gyda’i fywyd a gyrrodd i fan anghysbell ar fynydd lle yfodd lawer iawn o vodka. Yna, penderfynodd yrru adref a tharodd ei gar yn erbyn coeden ac i lawr i gwm serth. Galwyd ar y gwasanaethau brys ac yna cafodd ei gael yn euog o yfed a gyrru a gwaharddiad am 18 mis. Atgyfeiriodd ei hun i’r GMC. Cynhaliwyd ymchwiliad gyda nifer o asesiadau seiciatrig, cyfres o brofion gwaed ac alcohol, mynychu cyfarfodydd misol Grŵp Meddygon a Deintyddion Prydeinig (BDDG) a chafodd ddychwelyd i’w waith o dan oruchwyliaeth. Bu hwn yn gyfnod o straen aruthrol gan fod fy ngŵr yn hunangyflogedig a’r unig un oedd yn ennill cyflog i’r teulu. Gan nad oedd yn gallu gyrru a’n bod yn byw mewn man gwledig, byddai’n beicio 20 milltir yn rheolaidd i fynd i’w waith neu byddai’n rhaid i mi ei yrru yno - nid tasg hawdd pan oedd yn gweithio sifftiau y tu allan i oriau a’r plant yn yr ysgol. Fodd bynnag, llwyddom i ennill y frwydr hon, nid oedd fy ngŵr yn cyffwrdd ag alcohol ac roedd yn hynod o gydwybodol yn y modd yr oedd yn byw ei fywyd. Roeddwn wedi mynd gyda fy ngŵr i’r mwyafrif o’r asesiadau a chredwn o’r diwedd y byddai ei broblemau iechyd meddwl yn cael eu trin ac y byddai ein bywyd yn gwella. Fodd bynnag, yn fuan cyn i’m gŵr gael ei drwydded yrru’n ôl a chodi’r cyfyngiadau GMC, sylwais ar newid ynddo (yr hyn a wn yn awr i fod yn fater o ddychwelyd i ddig hunangyfiawn) a po fwyaf roeddwn i’n ystyried y sefyllfa, po fwyaf roeddwn i’n sylweddoli nad oedd unrhyw un wedi archwilio achos y broblem go iawn. Mae’n siŵr bod yn rhaid gwybod yr achos cyn gallu trin y symptomau? Roedd cynifer o weithwyr proffesiynol wedi bod yn rhan o’r broses, ond i mi, roedd pob un yn poeni mwy am ddilyn protocol. Digwyddodd yr achlysur mawr nesaf yn ystod haf 2014. Wrth geisio delio ag argyfwng yn y teulu estynedig 150 o filltiroedd i ffwrdd o’n cartref, penderfynodd fy ngŵr adael a gyrru adref er iddo fod wedi yfed ynghynt yn y dydd, ymddygiad cwbl afresymol. Ond eto, roedd mewn cyflwr afresymol (dyna berygl alcohol). Cafodd ddamwain car oedd yn cynnwys cerbyd arall gan anafu dau berson arall. Bu’n rhaid ei dorri o’r car, cafodd anafiadau difrifol a threuliodd dridiau mewn ysbyty. Cafodd gyfweliad gan yr heddlu a dychwelodd adref ar fore Sadwrn. Roedd hyn yn awr yn llawer rhy ddifrifol i mi a’r plant ddelio ag ef. Trefnais i’m gŵr fynd i ganolfan adfer breswyl a chytunodd i fynd yno. Fodd bynnag, ni allai aros am hyn ac yfodd ei hun yn hurt ar y bore Sul. Bydd y diwrnod hwn yn fy nghof am byth ac yng nghof ein plant; ambiwlans yn cyrraedd, fy ngŵr yn adfer ymwybyddiaeth mewn ysbyty ac yna’n dianc, heddlu’n chwilio amdano ac yn y diwedd cael ei gadw o fewn Adran 2 Deddf Iechyd Meddwl. Hynod amhleserus. Wythnos yn ddiweddarach, cyrhaeddodd fy ngŵr y ganolfan adfer ac arhosodd yno am bythefnos. Roedd yn teimlo bod y drefn yn anodd ond rydw i’n hynod ddiolchgar i’r ganolfan gan iddi wneud i’m gŵr sylweddoli pa mor anhydrin oedd ei fywyd erbyn hyn. Yna, clywsom am y Stafell Fyw sydd wedi bod yn achubiaeth i’r ddau ohonom ac i’n plant. Mae’n ganolfan adfer yn y gymuned wedi’i seilio ar gefnogaeth cyfoedion ac egwyddorion y Rhaglen 12 Cam. Rydw i’n mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Teulu’n rheolaidd ac mae’r plant yn mynychu hefyd. Mae’n rhywle lle’r ydych chi’n teimlo’n ddiogel, nid ydych yn cael eich barnu, rydych chi’n dysgu i ddeall eich sefyllfa a sefyllfa eraill a lle’r ydych chi’n rhoi ac yn derbyn cefnogaeth. Roedd fy ngŵr yn mynychu cyfarfodydd grŵp seicotherapi’n rheolaidd a chwnsela un i un a hefyd bu mewn encil ym mis Tachwedd. Erbyn hyn, mae ar ffordd wellhad yn sicr ac yn benderfynol bod ei fywyd a’n bywydau ni wedi newid am byth, nid oes troi’n ôl. Ar 12 Rhagfyr 2014 cafodd fy ngŵr ei ddedfrydu i 27 mis o garchar o ganlyniad i’r erlyniadau yn ei erbyn o’r ddamwain car ynghynt yn y flwyddyn. Teimlai’r Barnwr y dylai fod yn gwybod yn well fel dyn proffesiynol. Mae fy ngŵr yn gwybod bod yr hyn a wnaeth yn anghywir ac y dylai gael ei gosbi; mae wedi dangos cryn edifeirwch am yr hyn a wnaeth a bydd bob amser yn edifar am hyn. Mae fy ngŵr yn awr mewn system garchar sydd mewn argyfwng ac anhrefn. Mae’r plant a fi’n gweld ei golli’n ofnadwy. Wel, mae’n bosibl eich bod yn dweud "mae hyn i gyd am eich gŵr, beth amdanoch chi?" Rydw i’n dysgu llawer amdanaf fy hun drwy’r sefyllfa boenus ac anodd hon. Bu’n rhaid i mi ofyn beth sydd orau i’r 3 phlentyn a fi ac nid dim ond i fy ngŵr. Mae’n flinedig iawn yn emosiynol. Rydw i’n credu yn yr uned deuluol. Nid wyf yn credu bod fy ngŵr yn ddyn drwg na pheryglus, i’r gwrthwyneb yn llwyr; mae’n fwyn, yn garedig ac yn ofalus, ond mae’n sâl. Mae’n awyddus i wella ac yn awr, mae yn gwella ond mae hwn yn llwybr y bu’n rhaid i ni gael hyd iddo ein hunain, ni chafwyd unrhyw arweiniad proffesiynol na chyfraniad meddygol cydnabyddedig. Fel yr amlygwyd yn ddiweddar yn y cyfryngau, mae diffyg cydnabyddiaeth ac ofn cydnabod problemau iechyd meddwl. Yn wahanol i salwch corfforol, mae’n gyflwr anweledig ac felly’n anodd i nifer ei deall. I gloi, mae rhai anawsterau mewn bywyd cynnar a swydd hynod anodd yn gofalu am eraill wedi golygu nad oedd gan fy ngŵr y dulliau ymdopi angenrheidiol ac, fel dyn proffesiynol, teimlai na ddylai bod angen iddo ofyn am help. Pan aeth i chwilio am help, nid oedd yn hawdd cael hyd iddo, nid oedd unrhyw un yn deall ei salwch yn iawn ac roedden nhw’n cyfaddawdu triniaeth oherwydd ei statws. Mae Stafell Fyw Caerdydd wedi dangos iddo beth sydd angen iddo ei wneud. Mae’r ateb mewn gwirionedd yn hynod syml, nid oes angen meddyginiaeth nac ymchwil parhaus, dim ond gostyngeiddrwydd, trugaredd, dealltwriaeth ac amser. Mae model adfer Stafell Fyw Caerdydd yn gweithio. Mae’n bosibl na fydd rhai’n deall ei gysyniad ar unwaith, oherwydd mae’n brofiad poenus ac estron. Ar hyn o bryd, mae fy ngŵr mewn carchar 180 milltir i ffwrdd oddi wrthym. Rydw i’n awr yn rhiant sengl, yn ddibynnol ar fudd-daliadau’r wladwriaeth. Rhywsut rydw i’n eithaf gwydn a chredaf fod hyn wedi’i fewnblannu ynof drwy fy magwraeth sy’n unol â nifer o egwyddorion Stafell Fyw Caerdydd. Rydw i’n fwy na pharod i drafod fy sefyllfa ymhellach. Mae fy ngŵr a minnau’n awyddus iawn i weld rhyw dda’n dod allan o’r dioddef rydyn ni, fel unigolion a theulu’n mynd drwyddo. Gellir cysylltu â mi drwy Wynford Ellis Owen yn Stafell Fyw Caerdydd. Helen

15 comments:

  1. I really enjoy reading your post about this Posting. This sort of clever work and coverage! Keep up the wonderful works guys, thanks for sharing Mobaxterm Crack

    ReplyDelete
  2. Bandicut 3.6.5.668 Crack
    Bandicut 3.6.5.668 Crack is not easily a tape piece system that you might have before utilize it is a perfect mixture for total user tape correct requires. Not issues what kind of tape you are business along, these surprising system require you to remove & shield it some method you desire.

    ReplyDelete
  3. Howdy! This post couldn’t be written any better! Reading this post reminds me of my good old room mate! He always kept chatting about this.
    I will forward this post to him. Pretty sure he will have a good read.
    Thanks for sharing!
    slimcleaner plus registration key free
    bluebeam revu serial number and product key crack
    recover my files offline activation key
    mount and blade warband serial key
    araxis merge torrent
    Crack Like

    ReplyDelete
  4. The one creative I always love to watch is you. Your work is a joy to witness. Good job!
    graphpad prism crack
    driverpack solution crack
    unhackme crack

    ReplyDelete
  5. This knowledge, I believe, is crucial.
    For my own benefit. In addition, I'm grateful to have had the opportunity to read your piece.
    However, you'd want to highlight a few commonalities. :D I love the style of the website, and the contents are excellent.
    Hooray for fun!
    ccleaner pro crack
    windows 8 professional crack
    movavi photo editor crack
    revo uninstaller pro crack

    ReplyDelete
  6. When your goal is to launch world-class AI, our reliable training data gives you the confidence to deploy. You choose the level of service and security you .


    webstorm crack
    typing master pro crack
    vso convertxtodvd crack
    mackeeper crack
    teamviewer crack with torrent

    ReplyDelete
  7. I guess I am the only one who came here to share my very own experience. Guess what!? I am using my laptop for almost the past 2 years, but I had no idea of solving some basic issues. I do not know how to Crack Softwares Free Download But thankfully, I recently visited a website named xxlcrack.net/
    MAGIX Movie Studio Crack
    Cyberlink PowerDirector Crack

    ReplyDelete
  8. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete