Thursday 22 March 2012

WANTED/YN EISIAU - A Recovery Hymn/Emyn Adferiad

YN EISIAU

EMYN I DDATHLU SUL ADFERIAD CYNTAF CYMRU

Mae Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn chwilio am emyn newydd ar gyfer dathlu Sul Adferiad cyntaf Cymru.

Bydd yr emyn buddugol yn cael ei gynnwys yn y gwasanaeth swyddogol ar gyfer Sul Adferiad, 7 Hydref 2012.

Mae Sul Adferiad yn fenter newydd gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill i dynnu sylw at y ffaith anorchfygol fod dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau eraill yn chwalu bywydau. Hyd yn oed o fewn eglwysi, mae pobl a theuluoedd yng nghrafangau dibyniaeth. Mae Sul Adferiad yn gyfle i ofyn i Dduw alluogi ei holl blant i weld y perffeithrwydd sydd ynddynt eu hunain.

Bydd y Sul Adferiad cyntaf yn cyd-daro â lansiad Apêl Ecwmenaidd ar gyfer y Stafell Fyw, y ganolfan drin dibyniaeth gyntaf i gael ei sefydlu gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.

Bydd gwasanaeth Sul Adferiad yn cael ei anfon i filoedd o eglwysi o bob enwad ledled Cymru. Rydym yn chwilio am emyn Cymraeg a Saesneg, ac mae’r gystadleuaeth yn agored i unigolion ymgeisio yn y ddwy iaith. Beth amdani?

I gael ysbrydoliaeth, beth am ymweld â gwefan Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, www.cyngorcymru.org.uk?

Beirniad: Luned Aaron (dramodydd a chyflwynydd Dechrau Canu Dechrau Canmol)

Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2012.

Anfonwch eich emynau i Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, 58 Heol Richmond, Caerdydd CF24 3AT neu i info@welshcouncil.org.uk.
WANTED

A HYMN TO CELEBRATE WALES’ FIRST RECOVERY SUNDAY

The Welsh Council on Alcohol and Other Drugs is seeking a new hymn to celebrate Wales’ first Recovery Sunday.

The winning hymn will be featured in the official service for Recovery Sunday, 7 October 2012.

Recovery Sunday is part of the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs’ campaign to draw attention to the tragic fact that addiction to alcohol and other drugs wrecks lives. Even within our churches, people and families fall into the claws of addiction. Recovery Sunday is an opportunity to ask God to enable all His children to see the perfection within us all.

The first Recovery Sunday will coincide with the launch of an Ecumenical Appeal for The Lioving Room Cardiff, which is the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs’ first rehabilitation centre.

The Recovery Sunday service will be sent to thousands of churches of all denominations all over Wales. We’re looking for an English and a Welsh hymn, and individuals are welcome to compete in both languages. How about it?

For inspiration, why not visit the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs’ website, www.welshcouncil.org.uk?

Judge: Luned Aaron (dramatist and presenter of Dechrau Canu Dechrau Canmol)

Closing date: 1 July 2012.

Send your hymns to the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs, 58 Richmond Road, Cardiff CF24 3AT or to info@welshcouncil.org.uk