Sunday 15 April 2012

Lleiafswm Pris

Ym mywyd pob alcoholig, mae amser yn dod pan na fydd ef neu hi’n gallu anwybyddu cost ofnadwy eu dibyniaeth ac maen nhw’n dawel ac yn drist yn cyfaddef na allan nhw gario ymlaen gyda phethau fel ag y maen nhw.

Mae hyn yn ymddangos yn wir gyda chymdeithasau alcoholig ac mae’r Prif Weinidog ei hun yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi cyfaddef mai ei reddf normal fyddai caniatau i gewri bragu, cadwynau tafarndai ac archfarchnadoedd gael pen rhyddid. Mae cyfradd problem yfed Prydain mor fawr fel y dywedodd Edward VII unwaith ‘rhaid gwneud rhywbeth’.

Mae’r rhywbeth hwnnw wedi datgelu ei hun mewn galwad am leiafswm pris alcohol a allai fod yn 50p yr uned, gan gynyddu’n sylweddol cost alcohol sydd mewn termau reol y rhataf y bu erioed ers cadw cofnodion.

Mae’r ddibyniaeth, y salwch, y tristwch, y trais a’r anhrefn y mae’r tswnami hwn o alcohol rhad wedi’u dwyn y tu hwnt i bob amgyffred ond efallai y bydd yr un ffaith hwn yn rhoi golau bychan ar y problemau y mae Prydain yn eu hwynebu ar hyn o bryd; mae meithrinfeydd yng Nghymru’n awr yn cael canllawiau ar sut orau i ddelio â phlant bychan sydd wedi’u geni â syndrom alcohol y ffoetws, cyflwr oes sy’n gwanychu ac yn effeithio ar blant yn gorfforol, yn emosiynol ac yn feddyliol. Mae’r gost i’n hamgylchedd, i’n cymunedau, i’n GIG, i’n ffrindiau ac i’n teuluoedd wedi bod yn un yr ydym fel petaen ni wedi bod yn barod i’w dioddef wrth i frandiau alcohol byd-eang gynyddu eu helw a thalu dim tuag at lanhau eu llanastr. Ond yn awr bydd y gost yn cael ei dioddef gan genhedlaeth o blant hefyd.

Petai’r felin ddur gerllaw’n taflu mwg gwenwynig allan ac yn llygru ein cymdogaethau, gan efryddu plant â dwr llygredig neu gyfyngu ar ddisgwyliad oes pobl ifanc yn eu harddegau, byddai mudiad amgylcheddol wedi codi i herio’r perchnogion i wneud y safle’n ddiogel. Mae hyn wedi digwydd nifer o weithiau ac yn awr, mae mudiad tebyg yn dechrau ymddangos, un y mae’r Prif Weinidog yn ddigon doeth i’w gydnabod a’i gefnogi.

Yn lle torri adenydd y felin ddur sy’n llygru, mae’n rhaid i fân werthwyr alcohol sy’n gwenwyno cymdeithas ac sy’n preifateiddio eu helw ond yn cymdeithasu eu costau, drwy ddeddf gwlad, dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am y lefel o ddinistrio cymdeithasol y mae alcohol yn ei achosi.

Hanner y stori yn unig yw hyn, fodd bynnag. Os mai cwestiwn o roi treth ar alcohol a newid arferion gwerthu’n unig fyddai hyn, gallem adael y dasg i fyddin o Fandariniaid di-wyneb yn San Steffan ac anghofio popeth amdano. Ond nid hynny yw’r sefyllfa ac ni allwn.

Beth sydd wedi ein harwain at hyn? Rhaid i ni’n awr ofyn y cwestiwn hwn yn ddwys i ni ein hunain, ein teuluoedd a’n cymdogion. Sut rydyn ni wedi cyrraedd pwynt lle, yng ngeiriau’r AS Sarah Wollaston:

"Bydd tua 13 o bobl ifanc yn marw yr wythnos hon o ganlyniad i alcohol, a thua 650 eleni. Mae bron i chwarter o’r holl farwolaethau ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed yn cael eu hachosi gan alcohol. Mae hyn yn 2 bob dydd - llawer mwy nag sy’n cael eu lladd â chyllell neu o ganser …. “ (Sarah Wollaston aS)

Mae lleiafswm prisiau’n sicr yn gam yn y cyfeiriad cywir, ond dim ond y cam cyntaf, fel y mae’n rhaid i unrhyw alcoholig beidio ag yfed er mwyn dechrau gwella. Dechrau’r siwrne yn unig yw hyn a heb ddeall y poen a’r tristwch personol oedd yn arwain at y ddibyniaeth, mae ail-bwl yn debygol iawn. Rhaid i ni’n awr archwilio ein diwylliant, un sy’n dathlu alcohol ac alcoholiaeth; sy’n annog George Best, Keith Moon, Oliver Reed a Paul Gascoigne fel rebeliaid amharchus, sy’n dehongli marwolaeth Amy Winehouse fel un o 'athrylith yn cael ei harteithio’ ac sy’n gwobrwyo meddwon ac adictiaid X Factor drwy fwy o gyhoeddusrwydd i foddhau ein trythyllwch.

Rhaid i ni archwilio’r anobaith sy’n bodoli yn ein cymdeithas o’r brig i’r gwaelod, sy’n cyflwyno yfed fel rhywbeth amgen i fyw ac sydd wedi codi meddwdod i lefel rhinwedd. Rhaid i ni hefyd archwilio’r hunanaddoliad a’r hunan-amsugnad sy’n hyrwyddo ego y bu’n rhaid i ni i gyd ei gydnabod fel ymddygiad cyfreithus ac sy’n esgor ar niwed personol a chymdeithasol anferthol.

Deallwyd ers amser maith bod cymdeithas sy’n cael ei thanio gan bethau fel hyn yn gwanhau neu’n mewnffrwydro. Felly am amser hir ar ôl i reolau prisio newydd y Llywodraeth ddod i rym, rhaid i ni, fel mater o raid, gynnal trafodaeth genedlaethol am bwy ydyn ni a pham ein bod yn yfed.

No comments:

Post a Comment