Mae’r cam cyntaf at adferiad o ddibyniaeth ar alcohol, cyffuriau neu ymddygiadau niweidiol eraill megis pornograffi, rhyw, gamblo, hunan-niweidio, camddefnyddio bwyd ayyb. yr un fath yn union â’r cam cyntaf tuag at ffydd: sef ein bod yn sylweddoli ein hangen am help, ac na fedrwn wneud dim i achub ein hunain o grafangau’r cyffur neu’r obsesiwn sydd wedi ein goddiweddyd, heb gymorth Pŵer uwch na ni. Dyna pryd mae dioddefaint - yn ôl Rollo May, y seicotherapydd byd enwog, “O bosibl, y grym mwyaf creadigol ym myd Natur” - yn arf effeithiol iawn i sbarduno’r broses o adfer. Dioddefaint yn ddi-os gafodd fi i newid fy ffyrdd.
Dyna pryd mae Duw yn gallu cyffwrdd â’r enaid drwy grac yr ymwadiad yn y bersonoliaeth - yr ymwadiad sy’n nodweddu’r cyflwr, ac sy’n mynnu dweud wrth y dioddefwr nad oes dim byd yn bod arno. Dyna un diffiniad o wallgofrwydd, mae’n debyg - yr anallu i amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr. Mae pawb arall yn gweld yn glir beth yw’r broblem - ein bod yn ddibynnol ar bethau allanol (alcohol/cyffuriau ayyb) i wneud i ni deimlo’n well - pawb, hynny yw, ond ni ein hunain. Yn hytrach, dewiswn ni feio neu feirniadu pawb arall am ein cyflwr; a bod y datrysiad yn eu dwylo nhw, ac nid o fewn ein gallu ni ein hunain. (Mae sgitsoffrenia yn gyflwr arall sy’n meddu ar yr un nodwedd.)
Mae sawl llwybr at y Dwyfol, wrth gwrs. Mae rhai yn canfod yr allwedd drwy brofiadau annisgwyl yr ysbryd sy’n deillio o sefyllfaoedd cyffredin bywyd bob dydd, ac sy’n dal sylw dyn drwy gynnig iddo flas anghyffredin ar fyw. Mae eraill yn ufuddhau, heb wybod yn iawn pam, i fynych anogaethau’r ‘llais bach tu mewn’, ac yn canfod y ‘bywyd gwynfydedig’ drwy wneud hynny. Dyma lwybr Paul a Ffransis o Assisi at y Creawdwr. Mae llwybr anobaith yn llwybr dilys hefyd: pobl sydd wedi methu darganfod pwrpas i’w bywydau yw'r rhain, ac wedi anobeithio’n llwyr gan droeon trwstan a siomedigaethau bywyd. Hunanladdiad neu gymryd siawns (gambl) ar Dduw yw’r unig ddau ddewis sy’n weddill iddynt. Canfyddant y Duwdod am nad oes dihangfa arall yn agored iddynt o’u hadfyd. (Maent yn rhy llwfr i gymryd yr opsiwn eithaf). Dyma’r llwybr a gymrodd Sant Awstin i’r tragwyddol - fel sawl un arall, yn cynnwys fi. Ac mae’r niwrotig yntau, ar goll ac yn ddigyfeiriad, yn canfod Duw trwy ei boen. Yn wir, po ddyfnaf yw’r boen; y dyfnaf yw’r llawenydd o’i wynebu’n wrol fel y gwnaeth Luther. Yna, wrth gwrs, mae’r ychydig call yn sylweddoli bod mwy i fywyd na’r bersonoliaeth a materoliaeth. Chwenychant ragorach ffordd o fyw a chanfod, drwy ddyfalbarhad, deyrnas ogoneddus Duw.
Yn ôl Morton Kelsey yn ei lyfr Encounter with God (Hodder and Stoughton, 1972), gwyleidd-dra sy’n nodweddu’r llwybrau hyn i gyd. Y sylweddoliad nad yw pethau fel y dylent fod, a bod rhywbeth rhagorach yn eisiau yn ein bywydau. Dyna pam bod cyfforddusrwydd a bodlonrwydd yn rhwystrau ar y daith ysbrydol. Mae hawddfyd yn rhwystro Duw rhag cyrraedd atom.
Gyda llaw, ni allwch fyth fod yn rhy dwp i ganfod y llwybr at Dduw. Ond mi fedrwch chi fod yn rhy glyfar o’r hanner.
Yn y Stafell Fyw, felly, ein gwaith pennaf yw graddol ddatgelu’r crac yn y bersonoliaeth i’r dioddefwyr (eu bod yn doredig), a’u galluogi i sylweddoli eu hangen am help. Dyna ddechrau’r broses o adferiad a’r daith hir at hunan-adnabyddiaeth. Mae hynny’n hollol angenrheidiol, oherwydd ni allwch ddod i berthynas iach â’ch cyd- ddyn na’ch Duw heb adnabyddiaeth lwyr o’r hunan.
‘The way out is in’ chwedl Leo Tolstoy - ac mae’n daith fewnol sy’n gofyn am onestrwydd, ymroddiad llwyr a dyfalbarhad am oes. Weithiau ceir deffroadau ysbrydol sydyn a Damasgaidd. Ond, ar y cyfan, tân siafins o bethau yw'r rhain. Diffoddant yr un mor gyflym heb y dyfalbarhad a’r gefnogaeth angenrheidiol. A dyna ddau wasanaeth arall mae’r Stafell Fyw yn ei gynnig yn ddiwahân i’r adferwyr: cefnogaeth ac ôl-ofal am oes. Na, yr un yw taith y pererin a’r adict tuag at gyfanrwydd. Mae crac ynom i gyd..
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment