Llyfr y Mis
Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru y mis hwn yw No Room To Live gan Wynford Ellis Owen. Lansiwyd y gyfrol ddiwedd Mehefin ac mae eisoes wedi gwerthu’n dda yng Nghymru a thu hwnt. Nid rhyfedd bod yr apêl yn eang gan fod cynnwys y gyfrol hon yn cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl.
Addasiad yw’r gyfrol o hunangofiant yr awdur, Raslas bach a mawr, ond estynnwyd y cynnwys i ymwneud mwy â’r broblem sydd wedi dod yn un mor gyffredin yn ein cymdeithas erbyn hyn, sef problem dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau – neu, yn wir, sawl peth arall sy’n gallu caethiwo corff ac enaid. Neges fawr yr awdur, a fu ei hunan yn gaeth i alcohol a chyffuriau eraill, yw bod modd gwella o’r salwch (ac mae’n pwysleisio mai salwch yw e). Er mor ddu y gall y sefyllfa fod, does dim rhaid aberthu popeth – mae modd cael dihangfa, ac mae modd byw bywyd normal, cyflawn unwaith eto.
Mae cyhoeddi’r gyfrol hon yn gysylltiedig â’r bwriad gan Gyngor Cymru ar Alcoholiaeth a Chyffuriau Eraill i sefydlu Yr Ystafell Fyw yng Nghaerdydd yn y dyfodol agos. Canolfan fydd hon lle gall unrhyw un sy’n gaeth i ddibyniaeth o unrhyw fath (a’u teuluoedd), alw i mewn a chael cyngor, cymorth a chynhaliaeth i’w helpu i ymdopi â’r sefyllfa. Bydd y gwasanaeth hwn, dan ofal arbenigwyr yn y maes, ar gael yn ddwyieithog bob dydd o’r wythnos - ac am ddim. Mae’r holl elw o werthiant y llyfr hwn yn mynd tuag at gynnal Yr Ystafell Fyw.
Cyhoeddwyd No Room To Live gan Gyngor Cymru ar Alcoholiaeth a Chyffuriau Eraill; pris £11.95. Gellir cael copïau yn eich siopau lleol neu oddi wrth y Cyngor ei hun ar www.cyngorcymru.org.uk (02920 493 895).
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment