Bydd noson godi arian gyntaf menter newydd Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, am 7yh nos Sul 25 Hydref. Bydd yr elw o’r dathliad cerddorol a lwyfannir gan Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn mynd tuag at sefydlu Yr Ystafell Fyw Caerdydd, canolfan adferiad am ddim, ddwyieithog sy’n ceisio torri cylch dibyniaeth. Gydag amser, bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i bob tref fawr yng Nghymru.
Dywedodd Wynford Ellis Owen, prif weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, sy’n gyfrifol am sefydlu’r ganolfan newydd hon, “Mawr yw fy nyled i Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn am ein cefnogi mor hael yn lansiad ein menter godi arian newydd. Mae’r perfformiad yn siwr o fod yn ddigwyddiad gwirioneddol wych – noson i’w chofio i bawb sy’n mwynhau doniau cerddorol Cymreig.
“Mae’r Ystafell Fyw Caerdydd yn fenter gyffrous i ni. Ein hamcan yw helpu pobl sy’n profi anawsterau yn ymwneud ag alcohol, cyffuriau (presgripsiwn neu anghyfreithlon), neu unrhyw ddibyniaeth arall fel anhwylderau bwyta, dibynniaeth ar gariad neu ryw a gamblo, mewn ffordd effeithlon, gyda chanlyniadau hir-dymor cadarnhaol.”
Bydd Yr Ystafell Fyw Caerdydd yn agor yn y brifddinas ym mis Ebrill 2011. Yn darparu cwnsela yn ogystal â chyngor ynglŷn â dyledion, gofal plant a chymorth i deulu’r person dibynnol, ei hamcan fydd trin pob agwedd o’r salwch - every aspect of the illness – mind, body and soul.
“Mae’n achos haeddianol iawn ac rydym ni’n fwy na pharod i helpu” meddai Penri Roberts, un o gyfarwyddwyr artistig Theatr Ieuenctid Maldwyn. “Mae’r cyngerdd, Ar Noson fel Hon, yn ddetholiad o’r prif ganeuon o’n sioau dros y chwarter canrif ddiwethaf. Wedi perfformio yn Venue Cymru yn Llandudno yn gynharach yr wythnos yma, dyma’r cyfle olaf i bobl gael gweld y sioe.”
“Rwy’n falch dros ben i gefnogi prosiect yr Ystafell Fyw,” meddai Jenny Randerson AC, aelod o bwyllgor llywio yr Ystafell Fyw Caerdydd. “Mae’r prosiect yn haeddu cefnogaeth pawb, achos mae dibyniaeth yn cyffwrdd pob cymuned yn uniongyrchol.”
“Bob dydd yn fy etholaeth, rwy’n gweld effeithiau alcohol a chyffuriau ar fywyd cymaint o bobl. Ond rwy’ hefyd yn gweld sut mae pobl wedi troi eu bywydau o gwmpas gyda’r driniaeth a’r gefnogaeth iawn. Dyna pam fod y prosiect hwn am fod yn hollbwysig wrth ail-adeiladau bywydau a theuluoedd drylliedig a gwneud Caerdydd a Chymru yn lefydd hapusach i lawer iawn o bobl.”
Hefyd yn y cyngerdd bydd Janis Feely, sylfaenydd a chyfarwyddwr Living Room Stevenage, y ganolfan driniaeth sy’n sail i syniad yr Ystafell Fyw Caerdydd. Wedi ei sefydlu yn 2000, mae gan Living Room Stevenage nawr 18 o weithwyr cyflogedig a 20 o wirfoddolwyr ac mae’n profi llwyddiant gyda thua 70 y cant o’i chleientiaid.
“Mae’n wych gweld canolfan debyg yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd,” meddai. “Mae’r cyngerdd yma yn syniad gwych – cael pobl i gefnogi’r peth a chael pobl Cymru, nid Caerdydd yn unig, i “berchnogi” y ganolfan newydd, ydi’r peth pwysicaf oll.”
Sefydlwyd Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ym 1968 gan sawl enwad Cristnogol Cymreig, sydd hyd heddiw yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y Cyngor. Ers i Wynford Ellis Owen gael ei benodi yn 2008, mae’r Cyngor wedi dechrau gweithredu strategaeth dair-blynedd gyffrous sy’n canolbwyntio ar hybu ‘Dewis a Byw Bywyd Cyfrifol.’ Un o gonglfeini’r strategaeth honno yw hwyluso sefydlu Yr Ystafell Fyw Caerdydd.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Mari Fflur, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ar 029 2062 7465 neu mari@ebcpcw.org.uk neu ewch i www.cyngorcymru.org.uk.
Nodiadau i Olygyddion
Mae Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn grŵp theatr gerddorol sy’n cynnwys tua 350 o bobl ifanc o ganolbarth Cymu. Byddant yn perfformio detholiad o’u sioeau mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd dros y 25 mlynedd diwethaf – dathliad o’u doniau cerddorol ac actio. Yn ogystal â chefnogi menter Yr Ystafell Fyw Caerdydd, mae’r cwmni hefyd yn perfformio yn Llandudno i godi arian ar gyfer Ysbyty Blant Alder Hey yn Lerpwl.
* Mae The Living Room Cardiff/Yr Ystafell Fyw Caerdydd, wedi ei seilio ar gysyniad y ‘Living Room’ sy’n weithredol yn 8 - 10 The Glebe, Chills Way, Stevenage SG2 0DJ. Mae’n elusen gofrestredig: Rhif 1080634, ac mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.thelivingroom.me.uk. Bydd Janis Feely (y Cyfarwyddwr a’r Sylfaenydd) yn cynghori, gweithredu fel ymgynghorydd i’r fenter yn Nghaerdydd, yn ogystal â bod yn gyfrifol am bob hyfforddiant i’r staff.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment