DYDDIAD I’W GYNNWYS YN EICH DYDDIADURON……
Nos Sul 25ain o Hydref am 7 o’r gloch.
YN LLE? Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
YNO BYDD THEATR IEUENCTID MALDWYN
YN PERFFORMIO
‘AR NOSON FEL HON’
Bydd y Cwmni enwog hwn o 350 o bobl ifanc yn perfformio caneuon o rai o sioeau mwyaf llwyddiannus y cwmni dros y blynyddoedd - ‘Y Mab Darogan’, ‘Y Cylch’, ‘Pum Diwrnod o Ryddid’, ‘Myfi Yw’, ‘Er Mwyn Yfory’ ac ‘Ann’
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu er mwyn codi arian i sefydlu canolfan driniaeth newydd - YR YSTAFELL FYW - 'yn torri cylch dibyniaeth' - yng Nghaerdydd i rai sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau eraill ym 2011.
A oes teulu unman yng Nghymru heddiw nad yw wedi ei gyffwrdd, mewn rhyw ffordd, gan y gorddefnydd o alcohol a/neu gyffuriau eraill?
……. Am fwy o fanylion cysylltwch â Chyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ar Caerdydd 493895 neu’n uniongyrchol â Neuadd Dewi Sant ar Caerdydd 878444.
TOCYNNAU: £20.00; £15.00; £10.00
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment