Saturday 11 March 2017

Dibyniaeth ac Awtomateiddio

Dibyniaeth ac Awtomateiddio Am y rhan fwyaf o hanes y ddynoliaeth, mae pobl wedi diffinio eu hunain a’u gwerth drwy eu gwaith. I addasu geiriau’r Testament, “Wrth eu gwaith (nid eu gweithredoedd) yr adnabyddir hwynt.” Ond mae’r byd sy’n gyfarwydd i ni, lle gall gwaith sicrhau hunaniaeth, pwrpas a statws, yn debygol o gael ei ddileu yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf. Mae’r cynnydd anorfod mewn awtomateiddio yn mynd i arwain at gymdeithas lle na fydd gan y rhan fwyaf o bobl unrhyw waith o gwbl. A beth fydd yn digwydd i’n teimlad o ‘hunaniaeth’ wedyn? Unwaith y bydd hyn wedi digwydd, bydd ein cymdeithas yn wynebu her aruthrol – argyfwng yn wir. Mae hyn yn fater y dylai Llywodraeth y dydd ei ystyried, waeth mae’n ymwneud yn uniongyrchol ag economi’r wlad a, thrwy hynny, â iechyd a chysur y genedl. Yn anffodus, does dim arwydd bod hyn yn cael unrhyw sylw o gwbl. Nid yw’r broblem yn anorchfygol ond, os na wneir paratoadau, un o’r canlyniadau tebygol yw y bydd miliynau o bobl, heb lawer o bwrpas yn eu bywydau, yn troi at gysur medd-dod o ryw fath. Argyfwng gwacter ystyr yw dibyniaeth yn y pen draw; os nad oes unrhyw ystyr neu bwrpas i fywyd, yna mae encilio i ebargofiant cyffuriau ac alcohol yn gwneud synnwyr perffaith. Mae nifer o adictiaid yn gwella yn y diwedd – pan fydd y boen o golli popeth oedd yn rhoi pwrpas a strwythur i’w bywydau, yn mynd yn rhy annioddefol. Ydy, mae colli swydd, perthynas a statws yn gallu sbarduno adictiaid i wella ac, yn y pen draw, i ailadeiladu eu bywydau – ond os mai bywyd wedi ei seilio ar werthoedd materol ydyw, yna dyw problem dibyniaeth ddim wedi ei datrys. Pethau dros-dro, pethau sy’n diflannu’n hawdd, yw pethau materol (a does dim yn mynd i fod yn fwy ansefydlog na gwaith yn y dyfodol) ac mae ar bawb angen gwerthoedd dyfnach os ydym i deimlo ein bod yn fodau cyflawn. Yr her sy’n ein hwynebu yw darparu model gwahanol o gymdeithas, cymdeithas heb waith, sy’n delio ag anghenion emosiynol a dyneiddiol pobl. Waeth os na lwyddwn yn hyn o beth, bydd nifer o aelodau’r gymdeithas a awtomateiddiwyd – pobl unig, dibwrpas a digalon, yn ceisio cysur mewn dibyniaeth a phethau eraill dinistriol. Nid oes angen ofni dyfodol di-waith. Wedi’r cyfan, nid yw bodau dynol wedi’u geni’n benodol i gyflawni tasgau ailadroddus o 9-5, dydd Llun i ddydd Gwener. A beth bynnag, dim ond rhyw 250 oed yw byd gwaith fel yr ydyn ni’n ei adnabod! Ond mae chwyldro diwydiannol newydd o’n blaenau, lle nad gwaith fydd canolbwynt bywyd pobl bellach. Yn y fath honno o sefyllfa, os yw pobl i gael bywydau cyflawn ac ystyrlon, mae angen iddynt gael arweiniad i ddarganfod ystyr dwfn a gwirioneddol mewn bywyd yn hytrach na phethau materol fel gwaith. Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn byw gydag ychydig neu ddim gobaith am waith. Rhaid, felly, eu paratoi yn emosiynol ac yn ysbrydol ar gyfer byd sydd y tu hwnt i ddychymyg llawer ohonom ar hyn o bryd.

No comments:

Post a Comment