Thursday 29 December 2016

A MESSAGE FOR THE NEW YEAR - NEGES I'R FLWYDDYN NEWYDD

A message for the New Year from Living Room Cardiff In the days since his sad and untimely death, George Michael has been revealed to be not just a good, but a great man. His many acts of compassion, kindness, generosity and love, often to complete strangers were carried out anonymously. He seemed to avoid attention when he gave to others but in his passing these examples of caring and concern have become public knowledge. George Michael has died at a time when ideas of kindness, gentleness, solidarity and concern appear to be in retreat across the world; there is one other attribute he possessed which we might all do well to emulate and that is courage. In 2002, as many millions of people across the world looked on anxiously at the unstoppable march to war with Iraq, George Michael publicly spoke out against the war, knowing full well that he would be crucified by the tabloid press. He spoke out because he believed that the war was wrong and that it would end in catastrophe and history appears to have vindicated him on both counts. In the next twelve uncertain months that we will live through, we must all try to live in a spirit of compassion and courage both globally and in our everyday lives. At the Living Room Cardiff these values are central to everything that we do, compassion for the still suffering addict and courage in announcing the beliefs, ideas and values that the service encapsulates. In 2017 we will continue to research, plan and tackle the causes of compulsive gambling, we will offer comfort and support to addicts of all walks of life but also those in the clergy and the medical profession. We will focus on teaching recovery coaching to a new generation of skilled helpers to take the message of recovery and hope far and wide. We will also put a face and a name to the illness of addiction to draw it away from shame and secrecy. We will continue to challenge policy makers, brewers and retailers, casino chains, advertisers and every other branch of the addiction industry to put people before profits and to live up to the common humanity that binds us all. Uncertain times require quiet, persistent and bold action, taken in the spirit of kindness humanity and love. The great and good George Michael demonstrated this capacity for powerful positive action, combined with the utmost humility and the Living Room will do all it can to ensure these values live on.   Neges i’r Flwyddyn Newydd oddi wrth Stafell Fyw Caerdydd Yn ystod y dyddiau diwethaf, ers ei farwolaeth drist ac anamserol, datgelwyd George Michael nid yn unig fel dyn da, ond fel dyn mawr.  Cyflawnwyd ei dosturi, ei garedigrwydd, ei haelioni a’i gariad, yn aml i ddieithriaid, yn hollol ddienw. Roedd fel petai’n ceisio osgoi sylw pan oedd yn rhoi i eraill. Ond, oherwydd ei farwolaeth, mae’r enghreifftiau hyn o ofal a chonsyrn wedi dod i’r amlwg i’r cyhoedd.  Mae George Michael wedi marw ar adeg pan mae egwyddorion caredigrwydd, tynerwch, cydsafiad a chonsyrn yn ymddangos fel petaen nhw’n diflannu. Mae yna un nodwedd arall iddo efallai y dylen ni i gyd ei hefelychu a hynny yw gwroldeb. Yn 2002, wrth i filoedd lawer ar draws y byd edrych yn bryderus ar y daith na ellid ei hatal, i ryfel gydag Irac, roedd George Michael yn siarad allan yn gyhoeddus yn erbyn y rhyfel, gan wybod yn iawn y byddai’n cael ei groeshoelio gan y wasg dabloid. Roedd yn gwneud hyn oherwydd ei fod yn credu bod y rhyfel yn hollol anghywir ac y byddai’n gorffen mewn trychineb. Mae hanes yn ymddangos fel petai wedi cael ei brofi’n gywir ar y ddau achlysur. Yn ystod y deuddeng mis ansicr nesaf y byddwn ni’n gorfod byw drwyddyn nhw, rhaid i ni i gyd geisio byw mewn ysbryd o dosturi a dewrder yn fyd-eang ac yn ein bywydau ni bob dydd.  Yn Stafell Fyw Caerdydd, mae’r gwerthoedd hyn yn ganolog i bob peth rydyn ni’n ei wneud, tosturi tuag at yr adict sy’n dal i ddioddef a gwroldeb i gyhoeddi’r credoau, syniadau a’r gwerthoedd y mae’r gwasanaeth yn eu coleddu. Yn 2017, byddwn yn parhau i ymchwilio, cynllunio a delio ag achosion gamblo eithafol, byddwn yn cynnig cysur a chefnogaeth i adictiaid ym mhob maes bywyd ond hefyd i’r rhai o fewn yr eglwysi a’r proffesiwn meddygol. Byddwn yn canolbwyntio ar ddysgu hyfforddiant adfer i genhedlaeth newydd o gynorthwywyr cymwys i fynd â’r neges o adferiad a gobaith ar draws bob man. Byddwn hefyd yn rhoi wyneb ac enw i’r salwch o ddibyniaeth i sicrhau ei fod yn ddigywilydd a heb fod yn gudd. Byddwn yn parhau i herio gwneuthurwyr polisïau, bragwyr a mân werthwyr, cadwyni casino, hysbysebwyr a phob maes arall o’r diwydiant dibyniaeth i roi pobl cyn elw ac i ddilyn egwyddorion dynoliaeth gyffredin sy’n ein clymu ni oll. Mae amseroedd ansicr yn gofyn am weithredu tawel, cyson a dewr, gan ystyried yr ysbryd o garedigrwydd, dynoliaeth a chariad. Roedd y George Michael mawr a da’n dangos y gallu hwn i gymryd camau positif pwerus, ynghyd â’r gostyngeiddrwydd eithaf a bydd y Stafell Fyw’n gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y gwerthoedd hyn yn parhau.

No comments:

Post a Comment