Friday, 23 December 2011

Neges i wraig/ ŵr neu gymar a phlant yr alcoholig neu’r un sy’n gaeth

Mae’r Alcoholig yn aflonyddu am gael y ddiod nesaf ac fel arfer mae ei gymar yn aflonyddu am ei atal rhag cael y ddiod nesaf. Felly, mae’r ddau’n aflonyddu am alcohol - a’r plant druain (os oes rhai) yn ffwndro ac yn ceisio gwneud ‘addasiadau peryglus ac afiach’ i geisio ymdopi gyda phresenoldeb alcohol yn eu bywydau - sydd yn naturiol yn creu ei lefelau ei hunan o straen a phoen.

Yn rhy aml, clywais am alcoholigion yn mynd i ffwrdd i gael triniaeth breswyl ymhell i ffwrdd ac yn dychwelyd at eu teuluoedd - dim ond i syrthio’n ôl yn fuan wedyn. Mae hyn oherwydd bod gan deuluoedd gyflwr y maen nhw’n dychwelyd iddo pan fydd digwyddiadau’n eu bwrw oddi ar eu hechel, a elwir yn ‘homoeostasis’. Ystyr hwn yw bod eu systemau wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd i “gefnogi” (yn anfwriadol) yr alcoholig sy’n dal i yfed ac nid yr alcoholig sy’n gwella.

Dychmygwch degan symudol uwch ben crud plentyn- tynnwch un rhan ohono (yr alcoholig) ac mae’r system i gyd yn syrthio. Mae aelodau eraill y teulu wedi tueddu i ddefnyddio’r alcoholig fel bwch dihangol, gan ganiatáu iddo/ iddi gael ei gyhuddo/ chyhuddo am holl broblemau’r teulu. Nid yw’r aelodau eraill hyn wedi arfer gofalu am na delio â’u problemau eu hunain. Nid yw hyn yn syndod. Felly, pan fydd y rhan honno (yr alcoholig) yn dychwelyd i wneud y tegan symudol yn gyfan eto - mae’n mynd yn ôl i’w hen ffurf. Gwallgo’ neu beth? Ond, mae’r teulu (yn anfwriadol) - heblaw bod aelodau unigol y teulu hwnnw’n newid - yn gwneud i’r alcoholig feddwi eto.

Yn Stafell Fyw, Caerdydd, felly, anogwn deuluoedd (holl aelodau’r teulu) i edrych ar y ‘broblem’ yn wahanol - nid yn ynysig, ond fel rhan o’r cyflawn, ac i helpu i symud y cyfrifoldeb am y newid oddi wrth yr un unigolyn (fel arfer y person sy’n ddibynnol ar alcohol a/ neu gyffuriau) at bawb yn y system neu’r teulu.

Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth am Grwpiau Teulu. gwybodaeth@cyngorcymru.org.uk neu www.thelivingroom-cardiff.com neu ffoniwch 029 2049 3895

No comments:

Post a Comment