Cynhelir Taith Gerdded Adfer Genedlaethol gyntaf erioed Cymru yng Nghaerdydd dydd Sadwrn 10 Medi 2011 gyda chefnogaeth Sefydliad Adfer y DU, Academi Adfer y DU, Cyngor Sir Caerdydd ac Arglwydd Faer Etholedig Caerdydd.
Mae dyddiad y daith yn cyd-daro gyda’r Mis Adfer llwyddiannus yn yr UD a ysbrydolodd trefnwyr taith gerdded Cymru. Mae hefyd yn hybu budd triniaeth effeithlon ar gyfer anhwylderau defnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl i gymdeithas.
Dywed Wynford Ellis Owen, sy’n cadeirio pwyllgor yr achlysur, “Rydyn ni’n awyddus i’r Daith Adfer hon, y cyntaf yng Nghymru, fod yn achlysur i’w chofio!
Mae model Mis Adfer yr UD yr wyf fi’n ei edmygu’n fawr, yn canmol cyfraniadau darparwyr triniaeth dda ac yn lledaenu’r neges gadarnhaol bod atal yn gweithio, triniaeth yn effeithlon ac y gall pobl gael adferiad a bod hyn yn digwydd. Dyma’r union beth y mae Taith Gerdded Adfer Genedlaethol Cymru yn ei ymgorffori.
“Drwy’r daith gerdded hon, gobeithiwn gysylltu â chymuned Adfer y DU ac estyn allan a chreu mwy o gefnogaeth ymhlith aelodau teuluoedd, ffrindiau a chefnogwyr y rhai sy’n adfer.
“Yn ei hanfod, mae’r Daith Gerdded Adfer, yn fater o hawliau dynol. Bydd yn mynd yn bell i wrthdroi llawer iawn o’r rhagfarn, camwahaniaethu a stigmateiddio pobl sy’n gaeth a rhai â phroblemau iechyd meddwl sy’n dal i fodoli mewn cymdeithas heddiw.
“Gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn ymuno â ni ar 10 Medi yng Nghaerdydd gan ddangos wynebau a lleisiau cadarnhaol adfer a bod yn eiriolwyr effeithlon a deniadol i’r ‘gobaith o adfer’.
“Mae un peth y gallwn ei addo, bydd y croeso gorau posibl ym mhob man yng Nghymru, ar y bryniau, yn y cymoedd ac ar draws Cymru i bawb fydd yn mynychu’r Daith Gerdded Adfer Genedlaethol gyntaf erioed yng Nghymru. Bydd yn brofiad unwaith mewn oes!
I gofrestru ar gyfer y daith ac i gael mwy o wybodaeth, gallwch anfon e-bost at welshrecoverywalk@gmail.com neu gobaithatgerdded@gmail.com
DIWEDD
I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â Rhodri Ellis Owen yn Cambrensis Cyfathrebu ar 029 20 257075 neu Rhodri@cambrensis.uk.com
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment