Monday 13 September 2010

Dear Friends/Annwyl Ffrindiau,

Please come and view this exhibition. More importantly, please come to the launch at 12.00 on 21st September at the Senedd building in Cardiff Bay. There'll be a buffet as well!

Dewch i'r arddangosfa. Yn bwysicach dewch i'r lansiad am 12.00 ar y 21ain o Fedi yn adeilad y Senedd, Bae Caerdydd. Bydd bwffe yno ar eich cyfer hefyd!


ELFYN LEWIS / CARWYN

EVANS / CARWYN

EVANS / IWAN BALA /

OGWYN DAVIES /

EUGENE SULLIVAN /

DEWI TUDUR / BRIAN

DAVIES / HEULWEN

THOMS / KAREN JONES /

INGRID PETT / KATHY

WILLIAMS ET AL...

cyngor cymru ar

alcohol a chyffuriau eraill

the welsh council on

alcohol and other drugs

FE’CH GWAHODDIR GAN DR DAI LLOYD A.C. I LANSIAD

YOU ARE CORDIALLY INVITED

BY DR. DAI LLOYD A.M. TO ATTEND THE LAUNCH OF

DIBYNIAETH/ADDICTION

ARDDANGOSFA GELF ARBENNIG GAN RAI O ARTISTIAID ENWOCAF CYMRU I GEFNOGI

PROSIECT YR YSTAFELL FYW CAERDYDD

A SPECIAL ART EXHIBITION BY SOME OF WALES’ LEADING ARTISTS IN SUPPORT OF

THE LIVING ROOM CARDIFF PROJECT

Y SENEDD, BAE CAERDYDD, CF99 1NA

12.30YP DYDD MAWRTH Y 21ain O FEDI

BYDD BWFFE CYMREIG A CHROESO TWYMGALON YN AROS AMDANOCH

Y SENEDD, CARDIFF BAY, CF99 1NA

12.30PM TUESDAY 21st SEPTEMBER

A WELSH BUFFET AND A WARM WELCOME AWAITS YOU

Mae’r arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o’r 21ain – 23ain o Fedi 2010

The exhibition is open to the public from 21st – 23rd September 2010

R.S.V.P. ERBYN MEDI 15ED 2010

Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, 58 Richmond Road, Caerdydd CF24 3AT

R.S.V.P. BY 15th SEPTEMBER 2010

Welsh Council on Alcohol and Other Drugs, 58 Richmond Road, Caerdydd CF24 3AT

T. 02920 493895 E. info@welshcouncil.org.uk


Addiction as seen through the eyes of artists



A number of Wales’ leading artists are contributing works to a unique exhibition to be unveiled at the Senedd in Cardiff Bay at 12pm on Tuesday, September 21st 2010



Dibyniaeth – Addiction will display new works by some of the country’s finest creative talents including Iwan Bala, Ogwyn Davies, Elfyn Lewis, Carwyn Evans, Kathy Williams, Karen Jones and Dewi Tudur. Most of the artworks have been created specifically for the exhibition using the theme of addiction in the widest sense. The exhibition, hosted by Dr Dai Lloyd AM, will be at the Senedd until September 23rd before embarking on a tour of other venues in Wales in January and February 2011. Proceeds from the sale of the artworks will be donated to The Living Room Cardiff Project. The Living Room Cardiff is a free, bilingual day-care centre that will offer treatment to anyone experiencing difficulties relating to alcohol, drugs (prescribed or illicit), or any other dependency. The first stage of this exciting new project will be officially opened in June, 2011.



The story of one artist in particular who worked closely with an addict in recovery is particularly inspiring. Ingrid Pett composed a poem which was subsequently taken up by Ogwyn Davies as the inspiration for his particular piece.



Ingrid Pett, said, “I would never have though in a million years that something I had written would eventually end up as a piece of art on display in the Senedd. It is quite something and has given me an incredible sense of achievement. I hope my experience will inspire others looking for a way out of their addictions. There is light at the end of the tunnel.”



Wynford Ellis Owen, Chief Executive of the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs who sponsor the event, added, “I am very grateful for the support I have been given by these fantastic artists. I have been looking for a long time for a creative way to get the message of what addiction means and what it can do to people. I hope this exhibition will get people thinking and Ingrid’s example is testament to what is possible with positive thinking and the right type of support.”






Dibyniaeth drwy lygaid artistiaid



Mae nifer o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru yn cyfrannu gwaith i arddangosfa unigryw yn y Senedd ym Mae Caerdydd sy’n cael ei lansio am 12pm ar ddydd Mawrth 21ain o Fedi 2010.



Fe fydd Dibyniaeth - Addiction yn arddangos gwaith newydd gan rai o artistiaid mwyaf talentog Cymru gan gynnwys Iwan Bala, Ogwyn Davies, Elfyn Lewis, Carwyn Evans, Kathy Williams, Karen Jones a Dewi Tudur. Mae rhan fwyaf o’r gwaith celf wedi cael eu creu yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa gan ddefnyddio’r thema dibyniaeth yn ei ystyr ehangach. Cynhelir yr arddangosfa, sy’n digwydd ar wahoddiad Dr Dai Lloyd AC, yn y Senedd tan 23ain o Fedi cyn cychwyn ar daith i ganolfannau o gwmpas Cymru ym misoedd Ionawr a Chwefror. Bydd holl elw o werthiant y gwaith celf yn mynd at brosiect Yr Ystafell Fyw Caerdydd, canolfan driniaeth ddyddiol, ddwyieithog sy’n cynnig triniaeth am ddim i unrhyw un sy’n cael anhawster gydag alcohol, cyffuriau (ar bresgripsiwn neu yn anghyfreithlon) neu unrhyw ddibyniaeth arall. Agorir yn swyddogol rhan gyntaf y datblygiad cyffrous hwn ym mis Mehefin, 2011.



Mae stori un artist sydd wedi cydweithio yn agos รข rhywun sy’n brwydro dibyniaeth yn hynod o ysbrydoledig. Ysbrydolwyd darn celf Ogwyn Davies gan gerdd a gyfansoddwyd gan Ingrid Pett.



Dywedodd Ingrid Pett, “Wnes i fyth gredu y bydda rywbeth wnes i ysgrifennu yn ysbrydoli darn celf mewn arddangosfa yn y Senedd. Mae’n dipyn o beth a dwi’n teimlo fel fy mod i wedi cyflawni rhywbeth nawr. Gobeithio y bydd fy mhrofiad i yn rhoi gobaith i bobl eraill sy’n brwydro dibyniaeth. Mae ‘na olau ym mhen draw’r twnnel.”



Ychwanegodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill sy’n noddi’r digwyddiad, “Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan yr artistiaid bendigedig yma. Dw i wedi bod yn meddwl am amser hir am ffordd greadigol i esbonio beth mae dibyniaeth yn ei olygu a beth yw ei effaith ar bobl. Gobeithiaf y bydd yr arddangosfa yn cael pobl i feddwl ac y bydd enghraifft Ingrid yn destament i’r hyn sy’n bosib trwy feithrin meddwl cadarnhaol a derbyn y gefnogaeth gywir.”

No comments:

Post a Comment