Tuesday 22 June 2010

Y Farwnes Finlay i gyflwyno'r ddarlith flynyddol

Bydd ail ddarlith flynyddol Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn cael ei thraddodi gan yr Athro y Farwnes Ilora Finlay o Landaf ddydd Mercher 23ain o Fehefin am 6.30pm yn Ystafell Gynhadledd C a D, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd. Bydd bwffe Cymraeg ar gael am 5.30pm yn Oriel y Senedd, Bae Caerdydd.

Fe fydd y ddarlith, How we choose to live and die lives on…, sy’n cael ei llywyddu gan Gareth Jones OBE, AC, a’i chadeirio gan y gyflwynwraig teledu boblogaidd Angharad Mair, yn trin y pwnc llosg help i hunan-ladd.

Mae’r Farwnes Finlay yn Noddwraig i brosiect arloesol y Cyngor, The Living Room Cardiff/Yr Ystafell Fyw Caerdydd. Mae’r Farwnes hefyd wedi ysgrifennu’r rhagair i gyfrol newydd gyhoeddedig Wynford Ellis Owen No Room to Live - llyfr hunan-gymorth a hunangofiant sy’n dilyn brwydr bersonol Ellis Owen gydag alcohol.

Mae Ilora Finlay yn Athro mewn Meddygaeth Liniarol ac wedi gweithio gyda Gofal Canser Marie Curie ers 1987. Roedd hi’n Is Ddeon yn yr Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd, rhwng Awst 2000 a Hydref 2005. Mae’r Athro Finlay yn Gyn Lywydd y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol. Roedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynghori Arbenigol ar Ganser i Brif Swyddogion Meddygol Cymru a Lloegr. Y pwyllgor hwn gynhyrchodd Adroddiad Calman Hine ym 1995. Ar hyn o bryd, mae’n gadeirydd bwrdd gweithredol y strategaeth gofal lliniarol yng Nghymru. Bu’n weithgar yn hybu ‘dyniaethau meddygol’ fel modd ointegreiddio’r celfyddydau i mewn i ystyriaethau gofal iechyd.

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Rydyn ni’n falch iawn bod y Farwnes Finlay wedi cytuno i draddodi ein hail ddarlith flynyddol. Mae e’n gyfle gwych i drafod y mater pwysig hwn ac rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn dod i wrando ar yr hyn sydd ganddi i’w ddweud.”

“Mae’r Farwnes yn Noddwraig i’n prosiect Yr Ystafell Fyw Caerdydd, y gobeithir ei agor yn 2011. Canolfan driniaeth ddyddiol, ddwyieithog am ddim fydd Yr Ystafell Fyw gyda’r bwriad o dorri cylch dibyniaeth. Mewn amser, gobeithir y bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i bob prif dref ar draws Cymru.

“Fe fydd y cysyniad Yr Ystafell Fyw yn chwyldroi y ffordd o drin dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau ac ymddygiadau tebyg yng Nghymru. Mae’r pwyslais ar wellhad yn hytrach na rheoli dibyniaeth syml. Mae cael profiad, sgiliau a brwdfrydedd Barwnes Finlay yn gaffaeliad anferth i’r Ystafell Fyw ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â hi dros y misoedd nesaf i wireddu ein breuddwyd.”

DIWEDD

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Rhodri Ellis Owen Cysylltiadau Cyhoeddus Cambrensis ar 029 2025 7075 neu rhodri@cambrensis.uk.com neu ewch i www.cyngorcymru.org.uk.

Mae’r llyfr No Room to Live ar gael i’w brynu yn uniongyrchol o’r Cyngor, drwy ei wefan www.cyngorcymru.org.uk neu drwy www.gwales.com

No comments:

Post a Comment