YN Y GWAED
NA
Cau dwrn ar dynerwch
Cau’r glust i dawelwch
Cau’r llygaid o’r golau
Cau’r blas ar wefusau
Cau’r drws ar bob teimlad
I fyw mewn un gwadiad.
Cofleidio y treisgar,
Cofleidio’r aflafar,
Cofleidio’r tywyllwch,
Cofleidio’r anialwch,
Cofleidio’r meddyliau
fel nadroedd mewn clymau.
A chydio mewn briwsion
A rheini’n rhai sychion
A chydio mewn dynion
A rheini’n rai oerion
A chydio mewn pethau
A’r pethau yn rithiau
A chydio mewn rhithiau
A rheini’n fil drychau
A chydio ‘n y drychau
A rheini’n fil darnau
A chanlyn y darnau
A rheini yn driciau,
A’r triciau yn twyllo
A’r twyllo yn gyffro
A’r cyffro yn gyffur
A’r cyffur yn gysur
A’r cysur yn pylu
A’r pylu yn grefu
A’r crefu yn nadu
A’r nadu yn wadu
A’r gwadu yn sgrechian
A’r sgrechian yn fudan
A’r mudan mewn dicter
Ei hun yn y gwacter
Heb fwgwd na chastiau
I’w guddio o’i ofnau.
Ac yn y diddymdra
Yn betrus ac ara’
Y dwrn sydd yn agor
Ac estyn am angor.
Ac angor tynerwch
Yng nghryfder tawelwch
yw diwedd ymrannu,
a dechrau’r cyfannu.
IE
Ymagor i’r tyner,
A gwrando ar bader,
Edrych i’r golau
Ag awch ar wefusau.
Dewrder i deimlo,
Gwroldeb rhag cuddio.
Cofleidio yr addfwyn,
Cofleidio’r c’newyllyn ,
Cofleidio y golau,
Cofleidio’r ffynhonnau,
Cofleidio pob teimlad
- c’lomennod yr enaid.
A derbyn y bara
A diolch heb draha,
A chynnal pob cyd-ddyn
Yn ffrind ac yn elyn,
A gadael i bethau
Gael byw heb amodau
A derbyn y rhithiau
Yn reiat o liwiau
Heb bin dadansoddi
I’w hoelio a’u rhewi.
Gadael i’r darnau
Hedfan heb glymau
A chwerthin ar driciau,
Heb goelio y castiau,
A chanfod y cyffro
Tu hwnt i’r cyffuriau,
Y cyffro sy’n llonydd,
A’r llonydd yn ddedwydd,
A’r dedwydd yn wenu,
A’r gwenu’n ddireidi,
Direidi sy’n neidio,
A’r neidio yn ddawnsio,
A’r dawnsio yn llawen,
A’r llawen yn chwerthin,
A’r chwerthin yn ddynol,
A’r dynol yn ddwyfol,
A’r dwyfol yw’r hunan
Yn un a’r llun cyfan.
Ac nid oes diddymdra
Tu hwnt i rith ofnau ;
Wrth lacio y dyrnau
mae agor llifddorau.
A’r daith o ymrannu
Yn ôl at gyfannu
Yw’r daith yn ôl adre –
Y diwedd yw’r dechre’.
2009
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment