Monday 2 November 2009

Nid mater o ddu a gwyn ydi mater y cyffuriau yma.

Nid mater o ddu a gwyn ydi mater y cyffuriau yma. Mae tystiolaeth “wyddonol” yn gallu awgrymu nifer o bethau sy’n wallgofrwydd llwyr i bobl sy’n ddibynnol ar y cyffuriau hyn. Er enghrafft mae “gwyddoniaeth” yn awgrymu y gall pobl, sy’n gaeth i alcohol, yfed yn ddiogel eto. Gwallgofrwydd llwyr yw hynny, wrth gwrs, gan i bawb dwi’n adnabod sydd wedi gwneud hynny farw o ganlyniad. Ond nid yw’r enghreifftiau unigol hyn yn cyfri yn null gwyddoniaeth o nodi ystadegau.



Yr un peth parthed bod dibynniaeth yn ‘progressive, hynny yw ei fod yn gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn, byth yn gwella. Yn ol tystiolaeth “wyddonol” myth yw hynny eto. Mewn gwirionedd, sut bynnag, dyna sy’n digwydd – mae problemau dibyniaeth yn gwaethygu byth yn gwella. Edrychwch ar y dystiolaeth mewn bywydau pobl sy’n gaeth. Ond dyw’r dystiolaeth hynny, chwaith, ddim yn cyfri.



Fel dywedais, mae angen trin y “dystiolaeth” wyddonol yn ofalus iawn. Yn anffodus, roedd cyngor David Nutt yn dueddol o gefnogi un dehongliad yn unig – dehongliad, o fynd ag ef i’w eithaf, fyddai wedi arwain at gyfreithloni cyffuriau yn y man.



Hynny, yn fy marn i, sydd wedi profi'n anathema i’r gweinidog ac i’w lywodraeth. A dyna, dwi’n awgrymu, sydd y tu cefn i ddiswyddiad yr Athro David Nutt. Dadl o blaid ac yn erbyn cyfreithloni cyffuriau ydyw yn ei hanfod. Ac mae honno'n ddadl y dylid ei chynnal yn gyhoeddus.



Wynford Ellis Owen

No comments:

Post a Comment